>  Tref Trelew
 >  Punta Tombo
 >  Gaiman - Dolafon
Dyffryn Camwy Isaf
 >  Porth Madryn
 >  Penrhyn Valdès
 >  Rawson - Traeth Unión
 >  Argae F. Ameghino
 
Tref Trelew
Canolbwynt yr hanes
Rydych eisoes yn y dref, dyma ddechrau chwilota yn ei chorneli a fydd yn datgelu cyfrinachau’r gorffennol a’r presennol - cyfrinachau ei hanes a’i natur amlddiwylliannol.
O fynd am dro drwy ei strydoedd gwelwn adeiladau hanesyddol a llefydd o ddiddordeb sydd yn adlewyrchu gorffennol amlddiwylliannol Trelew o’r Tehuelches a’r Mapuches i’r Cymry, y Sbaenwyr a’r Eidalwyr ac ati.
Dechreuwn ein taith yn yr hen orsaf rheilffordd sydd heddiw’n gartref i Amgueddfa Trelew.
Efallai mai’r capeli ydy’r symbol orau o’r etifeddiaeth Gymreig a fu mor arwyddocaol yn hanes sefydlu’r dref. Yma, yn ardal Trelew gallwch ymweld â Chapel Tabernacl yng nghanol y dref a Chapel Moriah ger yr afon Camwy.
Yng nghyffiniau Trelew gwelwch y paith - amgylchedd ecolegol unigryw a nodwedd o’r rhan hwn o Batagonia. Mae’r MEF (Amgueddfa Dinosoriaid Egidio Feruglio) a Pharc Daearegol Bryn Gwyn yn cynnig cyfle diguro i ni weld gorffennol Patagonia a darganfod y dinosoriaid a fu’n byw yma.
Os hoffech chi astudio adareg mae’n bosibl gwylio adar ar y paith, o gwmpas yr afon Camwy a ger y Llyn Adar, sydd yn gartref i lu o adar o bob rhywogaeth.
Cewch hwylio’n llonydd lawr yr Afon Camwy, ymlacio dan ganopi’r dail gwyrddion a dod i adnabod trigolion gwreiddiol ein dyffryn a’r paith, a’r trawsnewidiad diwylliannol a ddaeth yn sgil datblygu a manteisio ar yr afon hon.
Gallwch seiclo o Drelew ar wibdeithiau wedi eu trefnu’n bersonol i chi a mwynhau’r tirwedd unigryw sydd o’n cwmpas gan aros mewn estancias, tai gwledig, gwersylloedd neu westai gwely a brecwast.
Mae’r amrywiaeth eang hwn o dirwedd ac amgylchfyd yn golygu ein bod yn medru cynnig teithiau ecolegol ar hyd llwybrau gwahanol i weld planhigion ac anifeiliaid brodorol a’r gwlâu ffosiliau yn eu cynefin. Dewiswch chi y llwybrau ar gyfer eich gofynion chi a’ch lefelau ffitrwydd chi..