Pryd mae teithio?
Does dim mis na thymor, dyn ni’n barod 365 diwrnod y flwyddyn i’ch derbyn chi. Disgwyliwn chi gyda rhywbeth arbennig ym mha bynnag dymor y dewiswch ddod yma, boed yn fyd natur, yn antur neu’n hanes. Gallwn eich sicrhau yr ewch oddi yma gydag atgofion bythgofiadwy. (Cliciwch yma er mwyn gweld y cwmnïau teithio)

Hinsawdd
Yn ystod y gaeaf mae’r tymheredd yn oer, rhwng 0° a 15°, a gallwch brofi dyddiau dan 0°. Dyn ni’n argymell côt gynnes a rhywbeth i’ch cysgodi rhag y gwynt oer, yn enwedig os byddwch yn mynd mewn cwch i weld y bywyd gwyllt.
Mewn gwrthgyferbyniad llwyr mae’r haf yn boeth gyda thymheredd yn cyrraedd 38°, gyda isafbwynt o 18° ac felly awgrymwn eli haul, siwt nofio, côt fach ysgafn falle a hyd yn oed côt i’ch cysgodi rhag y gwynt.
Mae’r tymheredd yn amrywio rhwng tua 10° ac 20° gweddill y flwyddyn ond mae ffactorau eraill megis pellter o’r môr a gwyntoedd enwog Patagonia’n golygu ei fod bob amser yn syniad da cario côt y gellir ei dynnu neu ei wisgo pan fo angen. Awgrymwn eich bod bob amser yn defnyddio esgidiau cyfforddus ac addas ar gyfer tirwedd gwahanol dan draed, gan gofio fod y mwyafrif o’n hatyniadau ni yn yr awyr agored.

Argymhellion

Mae’r gwarchodfeydd natur taleithiol wedi eu creu er mwyn gwarchod yr anifeiliaid sydd yn trigo ynddyn nhw felly rydym yn argymell eich bod yn sicrhau o flaen llaw os ydyn nhw ar agor, beth yw eu hamserlen, a’ch bod yn deall eu rheolau (efallai ei fod yn orfodol cael presenoldeb person sy’n arwain twristiaid neu gerbydau trwyddedig, efallai fod yna weithgareddau arbennig i grwpiau yn unig, ffurflenni i’w llenwi gan grwpiau ac ati).
Yn yr ardaloedd hyn bydd swyddogion gwarchod natur, tai bach, meysydd parcio, gwylfeydd, ysbienddrychau, arwyddion gwybodaeth a chanolfannau i ymwelwyr sydd yn caniatáu i chi fanteisio’n llawn ar eich ymweliad a’r byd natur o’ch cwmpas.

Calendr y bywyd gwyllt
Bob blwyddyn mae’r bywyd gwyllt yn dewis dychwelyd i’n hardal ni i atgenhedlu a geni eu plant, gallwch chi hefyd fod yn bresennol i fod yn dyst i’r digwyddiadau unigryw hyn.