|
|
|
|
|
| |
Argae Florentino Ameghino
Rhwng creigiau ac adlewyrchiadau
Teithiwn tuag at y gorllewin o Drelew ac ar ôl gyrru am
tua 120 Km dros y paith down ar draws Argae Florentino Ameghino
yn sefyll yn urddasol rhwng creigiau a phaith.
Maer boblogaeth yn byw mewn pentref tawel, coediog wedi
ei amgylchynu gan greigiau cochion a wal anferth yr argae.
Yma, y prif atyniad efallai ydy esgyn a disgyn y creigiau mewn
amrywiol ffyrdd drwy ddringo ac abseilio ac ati. Wedir
ymdrech galed, beth gwell na hwylio lawr yr afon Camwy lle gallwch
weld gwyrddnir coed ac mewn cornel dywyll y lliwiau llachar
hollol annisgwyl?
Cyn i ddyfroedd yr afon Camwy gyrraedd y môr mae modd
pysgota plu gyda thrwydded, ac efallai byddwch yn dal brithyll
yr afon neu frithyll seithliw ond rhaid parchur system
dal a rhyddhau (catch-and-release).
Os nad ydy twristiaeth anturus yn apelio atoch chi mae digon
iw wneud yn yr awyr agored heb fod yn rhy fentrus. Efallai
yr hoffech wersylla, gerdded neu farchogaeth.
|
|
|
|
|
|
|