|
|
|
|
|
| |
Punta Tombo
Cerdded ymysg pengwiniaid
Os ewch tuar de maer arwyddion ffyrdd yn eich arwain
i Punta Tombo, ac ar y daith yno gallwch sylwi ar y tirwedd
nodweddiadol or rhan hwn o Batagonia.
Wrth deithior milltiroedd gallwch weld natur ar ei gyfoethocaf
gydar anifeiliaid hyd yn oed yn croesir ffordd och
blaen weithiau ar frys ac weithiau yn hamddenol, dan
eu pwysau.
Maer tiroedd hyn, er ar yr olwg gyntaf yn wag, yn dir
magu defaid ar gyfer eu gwlân. Yn yr estancias
hyn setlodd teuluoedd cynnar ac mae rhai yn cynnig blas i chi
ar y bywyd gwledig, gwaith y fferm a hyd yn oed gig oen Patagonia
wedi ei goginio fel asado yn yr awyr iach.
Ar ôl teithio 107 Km o Drelew gwelwch o flaen eich llygaid
un or golygfeydd mwyaf trawiadol ym myd natur, Gwarchodfa
Natur Punta Tombo, lle mae cartref mwy na miliwn o bengwiniaid
Magellan. Maer penrhyn bach hwn yn ymestyn tua 4 Km ir
môr ac oherwydd hyn mae ganddo draethau llydan heb fod
yn serth sydd yn gartref ir pengwiniaid o tua diwedd mis
Awst tan tua diwedd mis Mawrth.
Creodd talaith Chubut y warchodfa hon yn y flwyddyn 1979 gyda
210 hectar efor bwriad o ddiogelu dyfodol y pengwiniaid
Magellan au cynefin.
Yn Punta Tombo down o hyd i fwy na dim ond pengwiniaid, cawn
gyfle i weld mwy o anifeiliaid ac adar y môr.
|
|
|
|
|
|
|