>  Tref Trelew
 >  Punta Tombo
 >  Gaiman - Dolafon
Dyffryn Camwy Isaf
 >  Porth Madryn
 >  Penrhyn Valdès
 >  Rawson - Traeth Unión
 >  Argae F. Ameghino
 
Porth Madryn
Yn agos at natur ac antur

Os deithiwn ni o Drelew i’r gogledd ar hyd ffordd fawr rhif 3, ymhen 63 Km down i dref fodern Porth Madryn, porthladd y llongau mordeithio mawrion. Mae ei leoliad wrth ddyfroedd tawel Bae Newydd yn ein caniatáu i fwynhau traethau tywod mân a gweithgareddau lan y môr, antur a deifio. Gall deifwyr profiadol a dysgwyr dibrofiad ddeifio yma mewn dyfroedd clir yng nghwmni deifwyr proffesiynol er mwyn gweld y môr a’i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.
Cyn symud ymlaen dylwn fynd am dro i’r Amgueddfa Eigioneg neu ‘Ecocentro’ sy’n canolbwyntio ar ddatgelu cyfrinachau’r môr ac arfordir Patagonia.
O fynd ychydig yn bellach ar hyd yr arfordir i draeth El Doradillo efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld Morfilod Cywir y De (ballena franca austral neu sourthern right whale), ac os ydy’r llanw’n uchel efallai y byddwch ond llathenni i ffwrdd oddi wrth y mamaliaid anferth hyn.