|
|
|
|
|
|
Newyddion
Trelew - Digwyddiadau
Arddangosfeydd, digwyddiadau diwylliannol
a chwaraeon yn nhref Trelew
Eisteddfod y Wladfa
Yma ceir cystadlaethau barddoniaeth, rhyddiaith, celf, crefft,
ffotograffiaeth, cerddoriaeth, adrodd, dawns a chanu corawl
mewn Eisteddfod syn fynegiant o ddiwylliant a thraddodiadau
Cymreig a dwyieithog y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Gwobrwyir
y Gadair i enillydd y prif gystadleuaeth farddoniaeth yn y Gymraeg,
ar Goron am farddoniaeth yn Sbaeneg, a rhaid aros hyd
y diwedd er mwyn gweld a chlywed y prif gystadlaethau i gorau
cymysg. Cynhelir yr Eisteddfod fel arfer ar ddiwedd mis Hydref.
Gŵyl Ryngwladol Corau
Cynhelir yr ŵyl hon bob dwy flynedd yn ystod mis
Medi, ac mae hin ennill ei lle yng nghalendr gorawl y
wlad ar byd. Maen hybur traddodiad corawl
yn yr ardal, yn yr Ariannin ac yn Ner Amerig a thrwy hyn
yn atgyfnerthur cysylltiad rhwng pobl âi gilydd
ac wrth gwrs yn hyrwyddo Trelew ym maes celfyddyd a thwristiaeth.
Ffair Amaethyddol a Ffair Wledig
Gwelir yma ddefaid o bob math yn cael eu harddangos; standiau
yn ymwneud âr diwydiant amaeth ai masnach;
arddangosfeydd or cynnyrch ynghyd â sylwadaur
beirniaid, y gwobrau a tuag at y diwedd, ocsiwn. Yma cynhelir
cystadlaethau cneifio ar cyfan yn adlewyrchu awyrgylch
unigryw y diwydiant amaeth yn yr ardal hon.
"Expo" Trelew
Arddangosfa fasnachol, ddiwylliannol a diwydiannol ydy
hon syn hyrwyddo cynnyrch a photensial ein tref. Maen
fan cwrdd ir rhai syn gweithio yn y diwydiannau,
yn y siopau ac ir cwsmeriaid hefyd.
Cynhelir sgyrsiau yma, arddangosfeydd o waith crefftwyr, cynnyrch
y diwydiannau a sioeau dawns a cherddoriaeth.
Gŵyl y Pengwin
Cynhelir gwahanol weithgareddau addysgiadol, diwylliannol ac
athletaidd gydar pwrpas o addysgur boblogaeth am
yr adnoddau sydd ar gael am Bengwiniaid Magellan a Gwarchodfa
Natur Punta Tombo au pwysigrwydd i dref Trelew.
Pen-blwydd y Dref
Cynhelir gweithgareddau amrywiol er mwyn dathlu pen-blwydd tref
Trelew drwy gydol mis Hydref, ac ar yr 20fed yn arbennig. Ymysg
pethau eraill gwelir arddangosfeydd o luniau, mabolgampau a
chyngherddau, ar cyfan yn cyrraedd uchafbwynt gydag ethol
brenhines Trelew.
Cystadlaethau Chwaraeon
Mae taith genedlaethol ceir rasio "Mar y Valle"
(Môr a Dyffryn) yn dod i Drelew yn gyson gydau
ceir o wahanol gategorïau (Turismo Carretera a 3
litr).
Yn ogystal â hyn cynhelir cystadlaethau eraill yn gyson,
rhai o rhain yn cael eu darlledun genedlaethol megis pêl-droed,
pêl-fasged, pêl-foli, hoci ac ati. |
|
|
|
|
|
|
|