|
|
|
|
|
| |
Trefnu eich
taith
Llety
Mae gan Trelew lety i siwtio pob math o chwaeth a phob math
o bocedi o wersylloedd i westai da, yr unig beth syn
rhaid ei wneud ydy mynd ir swyddfa dwristiaeth a holi
am y rhestrau llety ac yna dewis yr hyn sydd orau i chi. Maer
amrywiaeth yn golygu y gallwch ddewis llety gyda llefydd parcio
os ydych yn teithio gyda char, gwesty gyda thŷ bwyta neu
westy wedi ei rannu yn fflatiau gyda chyfleusterau cartref (apart
hotel). Does dim ots beth ddewiswch chi, mi gewch y sylw
ar croeso gorau posibl ond awgrymwn eich bod yn bwcio
digon o flaen llaw rhag cael eich siomi. (Cliciwch
yma i weld gwestai)
Bwyd
Gyda machlud yr haul mae Trelew yn barod i fagu nerth newydd
ar ôl gwaith y dydd. Y ffordd orau o gloi diwrnod prysur
yng nghanol byd natur ydy gyda phryd da o fwyd arbennig ac yma
maer arlwy yn amrywio o fwyd brys i fwyd gourmet.
Mae coginio patagonaidd wedi ennill ei le yn genedlaethol ac
yn fyd-eang erbyn hyn oherwydd ei ddefnydd o gynnyrch gorau
yr ardal. Gwelwch gig oen enwog Patagonia wedi ei goginio ar
y groes o flaen tân (asado), pysgod, bwyd môr,
efallai gyda saws arbennig, amrywiaeth o bicls, ac yna pwdinau
wedi eu gwneud or cynhwysion lleol gorau mae rhywbeth
at ddant pob un ohonoch chi.
Hwyl
Mae natur arbennig i fywyd nos yng nghanol y dref a fedrwch
chi ddim ymweld â phob caffi neu far mewn un noson yn
unig. Mae hwyl iw gael ar gyfer pob math o chwaeth ac
efallai mai ir casino yr ewch gydai ddifyrrwch arbennig
gydar dechnoleg ddiweddaraf mewn awyrgylch foethus
a hyd yn oed lle bwyta ardderchog a sioeau cerddorol amrywiol.
Mynd allan
Roedd cerddoriaeth yn bwysig iawn i sefydlwyr Trelew ac mae
hyn wedi treiddio i bob agwedd o fywyd y dref ers y cychwyn.
Os mai celfyddyd ywr hyn syn mynd âch
bryd yna rhaid ymweld ag Amgueddfa Celfyddyd Weledol Cyngor
y Dref (Museo Municipal de Artes Visuales), Canolfan
y Celfyddydau, llefydd sydd
yn adlewyrchur parch sydd i artistiaid lleol a phobl greadigol.
Chwiliwch am raglennir llefydd hyn er mwyn gweld os oes
gweithgareddau, arddangosfeydd neu hyd yn oed ddramâu
syn apelio atoch yma. Gallwch gofrestri gydan cylchlythyr
er mwyn derbyn manylion y digwyddiadau hyn.
Crefftau Lleol
Does dim modd ymweld â Threlew heb brofi Teisen Ddu
Patagonia. Yn y dref maer ffatri gyntaf a grëwyd
er mwyn cynhyrchur gacen ffrwythau hon sydd mor nodweddiadol
or ardal gyfan. Maen cael ei pharatoi yn ôl
hen ryseitiau cyndeidiaur Cymry a greodd y deisen faethlon
hon gydar ychydig gynhwysion oedd ar gael iddynt ar y
pryd. Erbyn heddiw maer deisen wedi datblygu yn gynnyrch
lleol nodweddiadol ac unigryw syn cael cydnabyddiaeth
genedlaethol a rhyngwladol.
Ar gael yn y siopau lleol mae ponchos, sgarffiau a gwasgodau
o wlân or ansawdd gorau wedi eu cynhyrchu gan grefftwyr
lleol. Maen arwydd gweladwy or cyswllt rhwng y brodorion
gwreiddiol ar Gwladfawyr ar gwerth a roddant i wlân.
Drwy ddefnyddio technegau gwahanol o greur gwlân
ai wau maent yn llwyddo i greu dillad trawiadol o ansawdd
arbennig. Maer cynhyrchion hyn, fel y crefftau lledr,
gemwaith a chrochenwaith, drwy eu lliwiau ac ansawdd yn adlewyrchu
eu gwreiddiau Patagonaidd ac yn anrhegion neu gofroddion perffaith
iw cario adref i gofio am eich taith ir paith pell.
Os dymunwch dderbyn mwy o wybodaeth yna llenwch ein ffurflen
gysylltu. |
|
|
|
|
|
|
|