>  Tref Trelew
 >  Punta Tombo
 >  Gaiman - Dolafon
Dyffryn Camwy Isaf
 >  Porth Madryn
 >  Penrhyn Valdès
 >  Rawson - Traeth Unión
 >  Argae F. Ameghino
 
Gaiman - Dolafon - Dyffryn Camwy Isaf
Arloeswyr y Dyffryn

Ger Trelew mae Dyffryn Camwy yn torri ar undonedd a natur digroeso paith Patagonia. Rhoddodd y dyffryn hwn o gwmpas dyfroedd y Camwy gartref i’r Gwladfawyr o Gymru a ddaeth yma yn chwilio am dir oedd well lle y gallent fod yn rhydd i addoli a siarad eu hiaith gan ymfalchïo yn eu diwylliant.
Os dewiswch chi lwybr y ffermydd (ffordd taleithiol rhif 7/ ruta provincial 7) neu y ffordd fawr sy’n uno Trelew ac Esquel (ffordd cenedlaethol rhif 25/ ruta nacional 25) gallwch ymweld â’r Gaiman, Dolafon a Thir Halen (28 de Julio), pob un yn arbennig yn ei ffordd ei hun.
Pentrefi ydyn nhw sydd yn adlewyrchu ffordd o fyw y trigolion, ac mae’n siŵr y sylwch ei fod yn fwy hamddenol na’r dref. Gwelwch yno hen dai trawiadol gyda’u pensaernïaeth neilltuol eu hunain, safleoedd hanesyddol ac amgueddfeydd, a’r tai te sydd erbyn hyn yn nodweddiadol o’r ardal lle mae te traddodiadol Cymreig yn cael ei weini.
Mae Dyffryn Camwy yn enwog am ei amaeth a gellir ymweld â rhai o’r ffermydd ar waith. Yn y ffermydd agored i dwristiaid gallwch weld sut maent yn cynhyrchu ffrwythau yn enwedig ceirios, gallwch weld ffermydd addysgiadol, ffermydd organig a ffermydd sy’n pesgi gwartheg a defaid - ffermydd nodweddiadol o’r ardal.
Er y caledi ar y cychwyn, ni rwystrodd hyn y Gwladfawyr cynnar rhag adeiladu capeli dros y dyffryn i gyd. Mae nifer wedi eu hadnewyddu yn ddiweddar, a medrwch ymweld â llawer ohonynt drwy drefnu o flaen llaw.