>  Tref Trelew
 >  Punta Tombo
 >  Gaiman - Dolafon
Dyffryn Camwy Isaf
 >  Porth Madryn
 >  Penrhyn Valdès
 >  Rawson - Traeth Unión
 >  Argae F. Ameghino
 
Porthladd Rawson - Traeth Unión
Môr agored i’th ddychymyg

Dim ond 25 Km o Drelew mae Môr yr Iwerydd yn ei ehangder yn golchi’r traethau caregog yn nhraeth Unión.
Os hoffech chi brofi amrywiaeth o gampau dŵr yna gallwch fanteisio ar wynt Patagonia yma ar y traeth, gan gofio fod rhaid parchu natur a rhaid bod yn ffit a chryf iawn i fedru harneisio’r elfennau yma.
Mae’r traethau hyn yn orlawn yn ystod yr haf a gellir dewis o lu o weithgareddau megis cystadlaethau athletaidd a gweithgareddau ymarfer corff, dawnsio a mynd allan gyda’r nos a phrofi nifer o ddathliadau traddodiadol. Gallwch bysgota yma drwy’r flwyddyn gyda’r sicrwydd y daliwch chi un o’r amrywiaeth eang o bysgod sy’n byw yma ar yr arfordir.
1 Km o Draeth (Playa) Unión mae Porthladd Rawson lle gallwch weld y llongau pysgota yn mynd ac yn dod, a mwynhau prydau blasus o bysgod neu fwyd môr yn y tai bwyta arbenigol gyferbyn â’r porthladd.
O’r porthladd mae cychod cyflym yn mynd allan i’r môr i weld dolffiniaid du a gwyn Commerson (toninas) sy’n neidio nid nepell o’ch cwch. Mae’n brofiad gwahanol iawn i hwylio ar ddyfroedd tawel Bae Newydd i weld y morfilod.