Pwy ydyn ni

Ein gorchwyl ydy hybu twristiaeth yn nhref Trelew. Mae gennym bwyllgor gwaith gyda chynrychiolwyr o ochr fasnachol a chyhoeddus y maes twristiaeth. Yn y cyfarfodydd mae pwrpas, gwaith a gweinyddiaeth Entretur (Ente Trelew Twristiaeth) yn cael ei drafod a’i drefnu.

Y Dref
Sefydlwyd Trelew yn ail hanner y flwyddyn 1886, fel croesffordd y rheilffyrdd newydd rhwng Dyffryn Camwy a’r Bae Newydd ym Mhorth Madryn. Dyma lle roedd y porthladd a fyddai’n cludo cynnyrch amaethyddol yr ardal, ffrwythau ei chynhaeaf, i weddill y wlad a’r byd i’w fasnachu.
Y Gwladfawr Lewis Jones oedd y person a hybodd ac a weinyddodd y gwaith hwn. Dyn ydoedd a fu, ychydig flynyddoedd yn gynt ym Muenos Aires yn arwyddo’r cytundebau er mwyn dechrau’r ymfudo i’r Wladfa Gymraeg ym Mhatagonia, Yr Ariannin. Er gwrogaeth iddo ef y rhoddwyd yr enw Trelew ar ein tref.
Roedd amaethyddiaeth yn ffynnu, mwy o sefydlwyr yn cyrraedd o drasau gwahanol gyda’u traddodiadau eu hunain ac felly roedd Dyffryn Camwy yn tyfu ac o’i herwydd Trelew hefyd. O ganlyniad i hyn heddiw gwelwn ddiwylliant a thirlun unigryw yn ei wrthgyferbyniad. Gwelwn eangderau, caledi a llwch y paith ar un ochr a gwyrddni’r tiroedd amaethyddol ar yr ochr arall yn creu nodweddion unigryw’r Patagonia Gymreig.
Mae Trelew yn dref weddol fawr, gyda 100,000 o bobl yn byw yma, ac felly’n gallu cynnig amrywiaeth eang o bethau i’r teithiwr ei wneud – rhai sy’n cymryd diwrnod neu hanner diwrnod i’w cwblhau, ychwanegwch rhain at y gwibdeithiau mae’r cwmnïau teithio yn eu cynnig a fyddwch chi byth yn segur yma. Mae’r cyfleusterau i gyd sydd eu hangen ar y teithiwr yma: llety o bob math, amrywiaeth o dai bwyta, cwmnïau teithio, arweinwyr twristiaid, yr unig faes awyr rhyngwladol yn yr ardal, cerbydau i’ch cludo a lle i gael hwyl neu ymlacio.

Pwyllgor Gwaith
Sr. Leonardo Gaffet (Departamento Ejecutivo Municipal) Presidente
Sr. Walter March (Cámara de Industria y Comercio) Vicepresidente
Sr. Pablo Punta (Concejo Deliberante) Secretario
Sr. Carlos Castro Blanco (Asociación Hotelera) Prosecretario
Sr. César Manrique (Asociación Hotelera) Tesorero
Sra. Nadia Hildeman (Cámara de Industria y Comercio) Protesorero
Sr. Miguel Ramos (Concejo Deliberante) Vocal
Sr. Leandro Espinosa (Concejo Deliberante) Vocal

Staff
Santiago Gutiérrez
Estela Williams
Liliana Alarcón
Mariano Del Pópolo
DCV Leticia Rodríguez