|
|
|
|
|
| |
Penrhyn Valdés
Safle Treftadaeth y Byd
Os awn ymlaen i Benrhyn Valdés maer arwyddion a
gwybodaeth a gawn yman ein hysbysu fod hwn yn warchodfa
natur pwysig tu hwnt gan fod cymaint o enghreifftiau o blanhigion
ac anifeiliaid unigryw yma, nodwedd a ysgogodd UNESCO i roi
statws iddo fel Safle Treftadaeth y Byd.
O Borth Pirámides, rhwng misoedd Mehefin a Rhagfyr,
gallwch hwylio mewn cwch i weld Morfilod Cywir y De, sydd yn
dod ir dyfroedd clir hyn bob blwyddyn er mwyn atgenhedlu
a geni eu plant.
Gallwch hefyd weld morloi mawrion dyn nin eu galw yn eliffantod
y môr yng Ngwarchodfa Punta Delgada ac yn Caleta
Valdés; neu hyd yn oed forloi cyffredin yn Punta
Norte yn yr haf, neu eliffantod y môr yn y gwanwyn.
Yma yn Punta Norte hefyd, yn ystod misoedd yr haf, maer
lle mwyaf addas i weld y morfil ffyrnig (orcas neu
killer whales).
Os mai ar adara maech bryd yna ar Benrhyn Valdés
mae Ynys yr Adar. Yma mae telesgopau mewn mannau pwrpasol ich
galluogi i weld ac astudio adar o bob math yn byw, yn atgynhyrchu,
yn deor a magu eu cywion.
Yn ystod eich taith o gwmpas y penrhyn ar hyd y llwybrau cerrig
efallai y gwelwch arwyddion yn dynodi mynediad i estancias,
ac mae rhai hyd yn oed yn caniatáu i chi aros yma, bwyta
a dod i adnabod eu ffordd o fyw au ffordd o weithio -
sydd mor arbennig ir rhan hwn or byd.
|
|
|
|
|
|
|